Lansio ap Cymraeg cyntaf y BBC

  • Cyhoeddwyd
app Cymru Fyw

Mae'r BBC wedi lansio ei ap Cymraeg cyntaf erioed yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli ddydd Llun.

Yr ap yw'r cynnyrch diweddaraf gan wasanaeth newydd Cymraeg BBC Cymru Fyw - gwasanaeth ar-lein sy'n cynnig casgliad o'r straeon diweddaraf o Gymru.

Mae'r ap, y datblygiad newyddion cyntaf o'i fath yn y Gymraeg - yn ychwanegu at y gwasanaeth ar-lein gafodd ei lansio ym mis Mai .

Bydd ymwelwyr â'r Eisteddfod yn cael y cyfle i brofi'r ap drwy'r wythnos, ar ffôn enfawr.

Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd wnaeth lansio'r gwasanaeth yn swyddogol am 12pm ym mhabell BBC Radio Cymru ar Faes yr Eisteddfod.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys awgrymiadau am gynnwys ar-lein newydd am Gymru y tu hwnt i'r BBC, adran gylchgrawn gydag erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau ac orielau lluniau a'r gallu hefyd i wrando ar Radio Cymru yn fyw.

Dywedodd Siân Gwynedd: ''Pan lansiodd Cymru Fyw gwpwl o fisoedd yn ôl, roeddem ni'n gwybod ei fod yn cynnig gwasanaeth newydd ac unigryw i siaradwyr Cymraeg.

"Ond, roeddem ni hefyd yn gwybod bod rhaid i'r gwasanaeth fod yn ddeinamig ac yn hawdd i'w ddefnyddio, gan wneud y gorau o'r dechnoleg mewn byd lle mae gwybodaeth yn cael ei yrru gan ddyfeisiau symudol, felly rydym yn falch iawn o lansio'r ap yma heddiw.''

Mae ap BBC Cymru Fyw ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar ddyfeisiau Apple ac Android.

Lawrlwytho i ddyfais Apple, dolen allanol

Lawrlwytho i ddyfais Android, dolen allanol

Mae gwefan BBC Cymru Fyw hefyd ar gael ar ffonau, tabledi a chyfrifiaduron.