His Dark Materials yn arwain y ffordd gyda naw enwebiad
Pum enwebiad yr un i’r ffilm nodwedd Eternal Beauty a’r ddrama unigol The Left Behind
Bydd y cyflwynydd teledu Alex Jones yn cynnal seremoni ddigidol ar 25 Hydref, 19:00 GMT ar sianeli cymdeithasol BAFTA
Rydym wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ym maes darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru.
Eleni, bydd Gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 21 o gategorïau crefft, perfformio a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu, yn ogystal â gwobr arbennig ar gyfer cyfraniad eithriadol i’r diwydiant ffilm a theledu rhyngwladol. Cyhoeddir manylion derbynnydd gwobr arbennig eleni ar 8 Hydref.
Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Mae fformat y seremoni’n wahanol iawn eleni, ond o ran y gwaith creadigol sy’n cael ei ddathlu, dyma uchafbwynt blwyddyn arall wych o gynhyrchu. Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn anodd i’r diwydiant teledu a ffilm, ond rydym wedi parhau i gynnig cymorth i’r rhai sy’n gweithio yn ein diwydiant. Roeddem eisiau anrhydeddu’r rhai sydd wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol, er gwaethaf yr heriau rydym oll wedi’u hwynebu, ac edrychwn ymlaen at ddathlu gyda’r enwebeion a’r enillwyr. Yn bersonol, rwyf yn falch iawn bod 20 o unigolion ar y rhestr wedi cael eu henwebu am y tro cyntaf, gan fod cydnabod ac amlygu talent newydd yn rhan bwysig o waith BAFTA. Roeddwn hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rheithwyr a’r cadeiryddion, yr oeddem yn ofalus i sicrhau, yn ôl yr arfer, eu bod yn cynrychioli grŵp amrywiol a phrofiadol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.”
Mae BAFTA Cymru wedi cadarnhau mai’r broses unwaith eto eleni oedd i’r holl geisiadau a dderbyniwyd gan gwmnïau cynhyrchu, darlledwyr ac unigolion gael eu hadolygu gan aelodau BAFTA cyn cael eu hystyried gan reithgorau o’r diwydiant a ddewisodd yr enwebeion a’r enillwyr. Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.
His Dark Materials sy’n arwain y ffordd eleni gyda naw enwebiad. Mae’r gyfres wedi’i henwebu am y wobr Drama Deledu ac mae’r actorion Dafne Keen a Ruth Wilson wedi’u henwebu am y wobr Actores, gyda Keen yn derbyn ei henwebiad cyntaf am ei rôl fel Lyra Belacqua.
Yn y categorïau crefft, mae’r gyfres wedi’i henwebu am y wobr Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Caroline McCall, sydd wedi ennill BAFTA yn flaenorol am ei gwaith ar Downton Abbey; Colur a Gwallt ar gyfer Pamela Haddock a Golygu ar gyfer Niven Howie a Stephen Haren. Mae’r gyfres wedi’i henwebu ddwywaith am ddwy bennod yn y categori Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen ar gyfer Suzie Lavelle, ar gyfer pennod 3, a David Higgs, ar gyfer pennod 8, yn ogystal ag enwebiad Dylunio Cynhyrchu ar gyfer Joel Collins sydd wedi ennill BAFTA.
Mae’r ffilm nodwedd Eternal Beauty, a ffilmiwyd ar leoliad yn ne Cymru, wedi cael pum enwebiad – Actores ar gyfer Sally Hawkins a Dylunio Gwisgoedd ar gyfer yr enillydd blaenorol Sian Jenkins, gydag enwebiad cyntaf am wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer awdur/cyfarwyddwr y ffilm Craig Roberts, Golygu ar gyfer Stephen Haren, sydd hefyd wedi’i enwebu am y tro cyntaf ar gyfer His Dark Materials, a’r enillydd blaenorol Tim Dickel ar gyfer Dylunio Cynhyrchu.
Mae Drama BBC One The Left Behind, a ffilmiwyd yng Nghaerdydd, wedi cael pum enwebiad hefyd, gan gynnwys ar gyfer Drama Deledu, ac mae’r newydd-ddyfodiad Siôn Daniel Young yn cael ei enwebiad cyntaf ar gyfer Actor, Alan Harris ar gyfer Awdur ac enillydd BAFTA Joseph Bullman ar gyfer Cyfarwyddwr: Ffuglen. Mae’r enwebiad olaf am y wobr Gwallt a Cholur ar gyfer Jill Conway, sy’n cael ei henwebu am y tro cyntaf.
Mae enillydd 2019, In My Skin, wedi cael pedwar enwebiad – Awdur ar gyfer Kayleigh Llewellyn a anrhydeddwyd yn flaenorol am Dorri Trwodd; Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer Lucy Forbes, y mae’r ddwy yn cael eu henwebu am y tro cyntaf. Mae’r gyfres wedi’i henwebu unwaith eto yn y categori Drama Deledu ac yn y categori Actores ar gyfer yr enillydd blaenorol Gabrielle Creevy.
Mae’r ddrama BBC/S4C Keeping Faith/Un Bore Mercher wedi cael ei henwebu am y wobr Drama Deledu ac mae Doctor Who wedi cael dau enwebiad am y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer Lee Haven Jones, sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru, a Golygu ar gyfer Rebecca Trotman, sydd wedi’i henwebu am y tro cyntaf. Mae cyfres deledu Fox, War of the Worlds, wedi cael dau enwebiad hefyd am y wobr Gwallt a Cholur ar gyfer Melanie Lenihan a Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen ar gyfer David Williamson, sydd ill dau’n cael eu henwebu am y tro cyntaf.
Yr enwebeion eraill yn y categori Actor yw Rob Brydon, sydd wedi cael ei enwebu 6 gwaith, am ei rôl yng nghyfres Sky, The Trip to Greece; Jonathan Pryce, sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA, am ei rôl yn The Two Popes, a’i gyd-actor yn y ffilm, Anthony Hopkins, sy’n cael ei enwebu am y deuddegfed gwaith.
Yr enwebeion eraill yn y categori Awdur yw Russell T Davies, sy’n cael ei 20fed enwebiad ar gyfer Years and Years, a Hanna Jarman a Mari Beard, sy’n cael eu henwebu am y tro cyntaf, ar gyfer cyfres S4C Merched Parchus. Mae’r ddwy wedi’u henwebu yn y categori Torri Trwodd hefyd.
Yn y categorïau ffeithiol, mae rhaglen ddogfen y BBC The Prince and The Bomber wedi cael tri enwebiad am y gwobrau Rhaglen Ddogfen Sengl; Cyfarwyddwr: Ffeithiol ar gyfer Marc Evans, sydd wedi ennill 7 gwaith, ac am y wobr Golygu ar gyfer Geraint Huw Reynolds. Yr enwebiadau eraill ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol yw Gareth Thomas: HIV and Me, The Murder of Jill Dando a Tudur Owen: O Fôn i’r Lleuad.
Mae Warriors: Our Homeless World Cup a Wales: Land of the Wild / Cymru Wyllt wedi cael dau enwebiad yr un, am y wobr Cyfres Ffeithiol a’r wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol ar gyfer yr enillydd blaenorol Laura Martin Robinson am Warriors: Our Homeless World Cup, a’r wobr Cerddoriaeth Wreiddiol ar gyfer Karl Jenkins a Jody Jenkins am Wales: Land of the Wild.
Bydd y seremoni’n cael ei darlledu ar sianeli Twitter, Facebook a YouTube BAFTA am 19:00 GMT ar 25 Hydref 2020, a bydd yn cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu Alex Jones am y tro cyntaf.
Alex yw un o’r cyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi cydgyflwyno prif sioe gylchgrawn BBC One, The One Show, am 10 mlynedd. Dechreuodd Alex ei gyrfa fel ymchwilydd teledu yng Nghymru, ei gwlad enedigol, cyn symud i ochr arall y camera gyda’i swydd gyflwyno gyntaf ar BBC Choice. Yna, ymunodd Alex ag S4C fel cyflwynydd ar y rhaglen ganu Cân i Gymru ac aeth ymlaen i gyflwyno amrywiaeth o raglenni plant, chwaraeon a theithio.
Dywedodd Alex Jones, “Mae’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda BAFTA ar seremoni sy’n dilyn fformat newydd cyffrous i ddathlu’r bobl greadigol hynny sy’n rhagori yn eu meysydd crefft, perfformio a chynhyrchu. Bydd y seremoni hefyd yn gyfle i ysbrydoli’r rheiny sy’n awyddus i ddilyn eu hôl troed, ac rwy’n falch iawn o weld yr amrywiaeth o enwebiadau sydd wedi’u rhestru ar draws cynhyrchu drama a ffeithiol.”
Bydd y seremoni’n cynnwys cyflwynwyr gwobrau sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.
Mae’r noddwyr digwyddiad a’r partneriaid canlynol wedi cael eu cadarnhau: Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Boom, Buzz Magazine, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Decade 10, Deloitte, ELP, Gorilla, ITV Wales, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Trosol, Villa Maria a Working Word.
Rhestr lawn o Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2020
CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU
Fe’i cyhoeddir ar 8 Hydref
ACTOR (a noddir gan AUDI UK)
ANTHONY HOPKINS fel Pope Benedict XVI YN The Two Popes
JONATHAN PRYCE fel Cardinal Jorge Mario Bergoglio/Pope Francis YN The Two Popes
ROB BRYDON fel Rob YN The Trip to Greece
SIÔN DANIEL YOUNG fel Gethin YN The Left Behind
ACTORES (a noddir gan Champagne Taittinger)
DAFNE KEEN fel Lyra Belacqua YN His Dark Materials
GABRIELLE CREEVY fel Bethan Gwyndaf YN In My Skin
RUTH WILSON fel Mrs Coulter YN His Dark Materials
SALLY HAWKINS fel Jane YN Eternal Beauty
TORRI TRWODD (a noddir gan Bad Wolf)
HANNA JARMAN a MARI BEARD ar gyfer Merched Parchus
LISA WALTERS ar gyfer On the Edge: Adulting
MARTIN READ ar gyfer The Insomniacs
SEBASTIAN BRUNO a DAVID BARNES The Dynamic Duo
RHAGLEN BLANT
CIC
DEIAN A LOLI
PROJECT Z
DYLUNIO GWISGOEDD
CAROLINE MCCALL ar gyfer His Dark Materials
RAY HOLMAN ar gyfer Fleabag
SIAN JENKINS ar gyfer Eternal Beauty
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL
SIÔN AARON a TIMOTHY LYN ar gyfer Eirlys, Dementia a Tim
MARC EVANS ar gyfer The Prince and the Bomber
MEI WILLIAMS ar gyfer Tudur Owen: O Fôn i’r Lleuad
LAURA MARTIN ROBINSON ar gyfer Warriors: Our Homeless World Cup
CYFARWYDDWR: FFUGLEN
CRAIG ROBERTS ar gyfer Eternal Beauty
JOSEPH BULLMAN ar gyfer The Left Behind
LEE HAVEN JONES ar gyfer Doctor Who (Spyfall Part 2)
LUCY FORBES ar gyfer In My Skin
GOLYGU (a noddir gan Gorilla)
GERAINT HUW REYNOLDS ar gyfer The Prince and the Bomber
NIVEN HOWIE a STEPHEN HAREN ar gyfer His Dark Materials
REBECCA TROTMAN ar gyfer Doctor Who
STEPHEN HAREN ar gyfer Eternal Beauty
RHAGLEN ADLONIANT
CYRN AR Y MISSISSIPPI
HENO
PRIODAS PUM MIL
THE TUCKERS
CYFRES FFEITHIOL
CORNWALL: THIS FISHING LIFE
WALES: LAND OF THE WILD / CYMRU WYLLT
WARRIORS: OUR HOMELESS WORLD CUP
YSGOL NI: MAESINCLA
COLUR A GWALLT
JILL CONWAY ar gyfer The Left Behind
MELANIE LENIHAN ar gyfer War of the Worlds
PAMELA HADDOCK ar gyfer His Dark Materials
NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddir gan Working Word)
FLOODING STRIKES THE SOUTH WALES VALLEYS
WALES INVESTIGATES INSIDE THE UK’S PUPPY FARM CAPITAL
Y BYD AR BEDWAR
CERDDORIAETH WREIDDIOL (a noddir gan Gyngor Caerdydd)
MARK THOMAS ar gyfer Last Summer
JONATHAN HILL ar gyfer The Long Song
JOHN HARDY MUSIC ar gyfer Steel Country
KARL JENKINS a JODY JENKINS ar gyfer Wales: Land of the Wild / Cymru Wyllt
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN (a noddir gan ELP)
BJORN BRATBERG FNF ar gyfer Bang
DAVID HIGGS ar gyfer His Dark Materials
DAVID WILLIAMSON ar gyfer War of the Worlds
SUZIE LAVELLE ar gyfer His Dark Materials
CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)
CARYS ELERI YN Carys Eleri’n Caru
ELIS JAMES YN Elis James – Funny Nation
EMMA WALFORD a TRYSTAN ELLIS-MORRIS YN Prosiect Pum Mil
HAYLEY PEARCE YN Hayley Goes…Sober
DYLUNIO CYNHYRCHIAD
ARWEL WYN JONES ar gyfer Dracula
JOEL COLLINS ar gyfer His Dark Materials
TIM DICKEL ar gyfer Eternal Beauty
FFILM FER (a noddir gan Boom)
THE ARBORIST
CREEPY PASTA SALAD
PALE SAINT
SALAM
RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL
GARETH THOMAS: HIV AND ME
THE MURDER OF JILL DANDO
THE PRINCE AND THE BOMBER
TUDUR OWEN; O FÔN I’R LLEUAD
SAIN
ALEX ASHCROFT ar gyfer The Last Tree
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Good Omens
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Sex Education
DRAMA DELEDU
HIS DARK MATERIALS
IN MY SKIN
THE LEFT BEHIND
UN BORE MERCHER / KEEPING FAITH
AWDUR (a noddir gan Decade 10)
ALAN HARRIS ar gyfer The Left Behind
HANNA JARMAN a MARI BEARD ar gyfer Merched Parchus
KAYLEIGH LLEWELLYN ar gyfer In My Skin
RUSSELL T DAVIES ar gyfer Years and Years