Nod yr ymgyrch hon yw tynnu lluniau o fannau o ddiddordeb yn eich ardal leol, o adeiladau rhestredig, hen gapeli a chestyll i feddygfeydd ac ysgolion. Yna gellir defnyddio'r ffotograffau hyn i wella cynnwys Wicipedia am eich ardal leol. Byddant hefyd yn ffurfio archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd y lluniau yn ymddangos ar wefan Casgliad y Werin.
Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Môn a wnaed yn bosibl gyda grant gan Lywodraeth Cymru.